Ar y dudalen hon, ry'n ni wedi rhestru mudiadau a mannau lle gall dioddefydd unrhyw anhwylder bwyta gael help. Os oes ffrind gennych ry'ch chi'n pryderu yn ei chylch, am eich bod yn teimlo ei bod yn ddioddefydd anhwylder bwyta, cliciwch yma i weld sut i'w helpu.

Nid yw'r dudalen hon yn gyflawn - byddwn yn ychwanegu mwy ati yn y dyfodol agos.

Cael help

Mae llawer yn cael adferiad rhag anhwylderau bwyta ac yn byw bywydau llawn a chynhyrchiol Maen nhw wedi datblygu perthynas iach â bwyd. Gallwch chithau wneud 'run peth.

Ry'n ni wedi rhoi stori person a gafodd wellhad wedi anhwylder bwyta wedi i'r person ymweld â ni ar y dudalen hon. Cliciwch yma i'w darllen.

Mae adferiad rhag anhwylder bwyta bob amser yn bosibl - hyd yn oed wedi blynyddoedd o salwch. Cofiwch hyn fe allwch wella. Ry'n ni'n siwr o hynny.

Mae'n anodd iawn adfer rhag anhwylder bwyta ar eich pen eich hun. Bydd angen help arnoch i ddelio ag ochr emosiynol a chorfforol y salwch. Y nod fydd dilyn patrwm rheolaidd o fwyta a deiet gytbwys. Bydd angen cyngor proffesiynol arnoch i wneud hyn. Mae'n debyg y byddwch angen help hefyd gydag ochr emosiynol eich anhwylder bwyta.

Maen rhaid i chi fod AM i hyn ddigwydd All neb eich gorfodi i wella. Fyddai hynny ddim yn tycio. Chi sy'n gyfrifol. Chi ddylai benderfynu. Y'ch chi am barhau i fyw fel hyn? Neu y'ch chi'n fodlon newid? Byddwch yn teimlo ofn wrth feddwl am newid, mae'n debyg. Mae hynny'n iawn - mae'n OK i deimlo ofn. Ond cofiwch bod llawer o bobl wedi cael adferiad rhag anhwylderau bwyta - ac y gallwch chithau hefyd.

Mae yna fannau'n arbenigo i ddelio ag anhwylderau bwyta. Rhown eu manylion isod. Mae yna grwpiau hunan-gymorth hefyd isod. Gallwch gysylltu'n uniongyrchol â nhw os mynnwch.


Eich meddyg

Bydd llawer sy'n ceisio adferiad yn siarad â'u meddyg yn gyntaf, neu â nyrs y feddygfa. Dyma syniad da, am y gallan nhw gynnig diagnosis i chi ac awgrymu dewis o driniaethau'r GIG. Cwnsela efallai, man trin cleifion dyddiol neu all-gleifion, neu hyd yn oed driniaeth mewn ysbyty os bydd angen. Os y'ch chi'n pryderu am eich rhieni, neu am bartner, soniwch wrth y meddyg am eich pryder. Peidiwch ag ofni eich bod chi'n 'gwastraffu amser y doctor'. Dy'ch chi ddim. Bydd eich meddyg am eich helpu - dyna'r rheswm mae'r meddyg yno.


Llinellau ffôn cymorth

Os y'ch chi'n ansicr am ofyn i'ch meddyg am help, gallwch alw un neu fwy o'r rhifau isod:

Eating Disorder Association - 0845 6341414 - Llinell gymorth yw hon.

CARELINE - 020 8514 1177 - (Dydd Llun i Gwener 10am - 4pm a 7pm - 10pm)
Cardinal Heenan Centre
326 High Road
Ilford
Essex 1G1 1QP
Mae Careline yn cynnig cwnsela cyfrinachol ar y teleffon i blant, pobl ifanc ac oedolion ar unrhyw fater gan gynnwys anhwylderau bwyta, iselder, unigedd, pryderon ac unrhyw ffobia.

CHILDLINE - 0800 1111 - unrhyw broblem, unrhyw amser - ddydd neu nos.

NHS Direct - 0845 4647 - llinell i wybod mwy am wahanol driniaethau gan y GIG.


Triniaethau Dydd

Cyswllt Ceredigion Contact - gorllewin Cymru - 01970 626470


Triniaethau preswyl y DG

Mae'r holl ganolfannau isod yn fodlon derbyn cyllid gan y GIG.

Broadway Lodge - Weston Super-mare - 01934 812 319

The Priory Group - 16 o ganolfannau yn Lloegr a'r Alban - 01372 860400

The Priory Group - gwasanaethau i bobl ifanc

Farm Place - Surrey - 01306 627742 (Un o ganolfannau'r Priory Group)

Promis Recovery Centre - Kent & Llundain - 01304 841700 & 020 75818222


Hunan-gymorth

Mae degau o filoedd o bobl yn y DG a ledled y byd yn dioddef anhwylderau bwyta ac yn byw bywydau iach a chynhyrchiol. Mae'n nhw'n perthyn i grwpiau hunan-gymorth o'r enw Overeaters Anonymous. Gall unrhywun sy'n teimlo bod ganddo/ddi broblem (anorexia, bulimia, trymder, neu unrhyw bryderon ynghylch bwyd) berthyn i'r grwpiau hyn. Mae nifer o gyfarfodydd yn y DG a ledled y byd.

Overeaters Anonymous - 07000 784985