Dim ond edrych yn fyr ar anhwylderau bwyta wnaethon ni ac mae llawer mwy o wybodaeth ar y rhyngrwyd - gall peth ohono eich helpu chi.

Isod, fe gewch ddolenni cyswllt â gwefannau eraill sy'n rhoi gwybodaeth am anhwylderau bwyta. Byddwn yn ychwanegu llawer mwy o ddolenni yn y dyfodol agos.

DOLENNI CYSWLLT

 
Eating Disorders Association
First Floor, Wensum House, 103 Prince of Wales Road, Norwich, NR1 1DW

Mudiad ardderchog a gwefan dda iawn yn cynnwys llwyth o wybodaeth am anhwylderau bwyta. Mae gan y mudiad ei Rhwydwaith Hunan-Gymorth ei hun a all gynnig cefnogaeth barhaus i chi a gwybodaeth. Rhwydwaith o bobl wirfoddol ledled y wlad sy'n cynnal grwpiau cefnogi ac yn cynnig cefnogaeth drwy'r post, e-bost, ac ar y ffôn i unrhyw un dan effaith enhwylder bwyta.

Eating Disorders Resources
Gwefan ardderchog ganolog ar gyfer newyddion am anhwylderau bwyta, ymchwil, adroddiadau, cynadleddau a barn. Llwyth o wybodaeth am anhwylderau bwyta gan gynnwys anorexia nervosa, bulimia nervosa, bwyta gorfodol a gor-fwyta eithriadol - manylion mudiadau, cyhoeddiadau a dolenni cyswllt â gwefannau eraill.

Somerset and Wessex Eating Disorders Association    
Gwefan dda iawn, iawn. Elusen gofrestredig, ddim yn gwneud elw, yn Street, Somerset, yn cynnig cefnogaeth i bawb a 'affeithir gan anhwylderau bwyta' ledled Somerset. Er mai elusen lleol yw SWEDA, mae eu gwefan yn llawn gwybodaeth o'r radd flaenaf am anhwylderau bwyta a dolenni cyswllt i rai gwefannau gwerthfawr eraill. Bwrdd hysbysu hefyd, lle gall pobl dderbyn cynhaliaeth.

The National Centre for Eating Disorders
Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth i'w dadlwytho ar anhwylderau bwyta megis gor-fwyta eithriadol, anorexia nervosa, bulimia nervosa a deiet. Gwybodaeth, cwnsela a hyfforddiant proffesiynol.

Gwefan Something Fishy on Eating Disorders
Gwefan (yn UDA) dros adferiad, yn canolbwyntio ar ddeffro ymwybyddiaeth ynghylch anhwylderau bwyta a darparu cefnogaeth a gwybodaeth i ddioddefwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Llawer o wybodaeth ynddi.

Weight Concern
Gwefan ardderchog elusen gofrestredig yn talu sylw i broblem gor-dewdra yn y DG ac anghenion corfforol ac emosiynol pobl drymion. Y bwriad yw:
* Hyrwyddo gwell cyngor a thriniaeth pobl drymion.
* Cefnogi ymchwil triniaeth a sut i arbed gor-dewdra.
* Siarad ar ran pobl drymion ac yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu.

Eating Disorders Information
Rhan o wefan y GIG. Dewis da o ddolenni cyswllt â gwefannau eraill yn rhoi gwybodaeth am anhwylderau bwyta a'r gefnogaeth sydd ar gael.

BBC - Health - Conditions - Eating disorders
Gwybodaeth am anhwylderau bwyta ar wefan y BBC.

Eating Disorders Support
Mudiad myfyrwyr yn gweithio i ddarparu help efo problemau gyda bwyd, pwysau, delwedd o'r corff ac unrhyw ffurf ar anrhrefn bwyta. Gwefan yn rhoi gwybodaeth-gefndir am anhwylderau bwyta a manylion ar sut i gael cefnogaeth; wedi'i lleoli yng Nghaergrawnt.