Arhoswch ychydig eiliadau . . .

 
Os na fedrwch symud o'r dudalen hon, 'dyw eich chwilotwr ddim yn darllen Javascript neu 'dyw Javascript ddim ymlaen gennych. Os yn bosibl, argymhellwn eich bod yn troi Javascript ymlaen yn newisiadau eich chwilotwr - am fod yr adran hon o'r wefan yn defnyddio Javascript i 'sgwrsio' gyda chi. Fel arall -

Cliciwch yma i gychwyn.

Beth yw anhwylderau bwyta?

Mae yna sawl math o anhwylder bwyta. Y mwyaf enwog yw Anorexia Nervosa (a elwir yn fyr yn anorexia) a Bulimia. Ry'ch chi wedi clywed yr enwau hyn o'r blaen mae'n debyg.

Bydd rhai pobl yn bwyta llawer mwy nag sy'n iach ac yn mynd yn or-dew. Weithiau, mae ymddygiad o'r fath yn un gorfodol (compulsive). Anhwylder Gor-Fwyta Eithriadol neu Gor-Fwyta Gorfodol yw hyn.

Yn y tudalennau sy'n dilyn, byddwn yn edrych ar y tri math o anhwylder, i weld beth sy'n gyffredin rhyngddyn nhw a pha ddewisiadau sydd er mwyn cael adferiad. Mae hunan-brawf yn gynwysedig, felly gallwch chi'ch hunan benderfynu a oes ganddoch chi anhwylder bwyta.


Gall anhwylder bwyta ddigwydd pan fydd perthynas normal rhywun â'i fwyd yn mynd o chwith rywsut. Gadewch i ni edrych ar y mathau gwahanol yn eu tro - i weld beth allwn ni ddarganfod amdanyn nhw.

Anhwylder bwyta Anorexia Bulimia Anhwylder Gor-fwyta Eithriadol Crynodeb anhwylderau bwyta A oes gen i anhwylder bwyta Adferiad rhag anhwylderau bwyta Dolenni cyswllt â gwefannau anhwylderau bwyta