Wel - efallai eu BOD nhw wedi 'laru ar eich ymddygiad - a bod rheswm da am hynny. Ond os felly, eich ymddygiad maen nhw'n ei gasau. Maen nhw'n dal i'ch caru CHI fel person mae'n debyg.
Os siaradwch yn onest gydag aelodau eich teulu neu eich ffrindiau am eich problem gydag alcohol neu gyffuriau - ac y gallwch ofyn am help i ddelio â'r peth - yna efallai y synnwch wrth eu hadwaith. Fel arfer, os credan nhw eich bod yn onest gyda nhw, bydd eich teulu neu'ch ffrindiau da yn hapus i roihelp a chymorth i chi.
Ond peidiwch chwarae o gwmpas gyda nhw - maen nhw'n haeddu parch.
Os ych chi'n pryderu am aelod o'ch teulu sy'n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, gall aelodau teulu a ffrindiau roi cefnogaeth emosiynol i chi, i'ch helpu i ddelio â'r sefyllfa. Gallan nhw gynnig ysgwyddo'r baich - neu roi cymorth corfforol i chi wynebu'r camddefnyddiwr/gamddefnyddwraig am ei h/ymddygiad.
Efallai gallan nhw eich helpu i chwilio am ffordd ymlaen. Ffordd o ofalu amdanoch eich hunan, tra ar yr un pryd, annog y camddefnyddiwr/gamddefnyddwraig i geisio am help.