Teulu & Ffrindiau | Meddyg | Canolfan Gynghori | Cyfeillach | Gofal Dydd | Triniaeth Preswyl | Cwnsela
 

Canolfan Gynghori Leol

Os ych chi'n meddwl bod ganddoch chi broblem gyda chyffuriau neu alcohol, mae'n debyg bod canolfan all gynnig help yn agos atoch. Mae enwau gwahanol arnyn nhw - Canolfan Gyffuriau efallai, neu Ganolfan Alcohol. Does dim gwahaniaeth - byddan nhw'n eich helpu gyda pha broblem bynnag sydd gennych.
Efallai mai enw'r ganolfan gynghori fydd 'Clinig', 'Gwasanaeth Cynghori' neu rywbeth arall tebyg. Efallai bydd enw lleol arno - edrychwch yn y llyfr ffôn, neu gofynnwch yn y llyfrgell leol, yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol etc i weld ble mae.

Allwn ni ddim rhestru holl Ganolfannau Cynghorio'r DG ar gyfer cyffuriau ac alcohol fan hyn. Mae gormod ohonyn nhw. Ond mae rhestr ar gael ar wefan Alcohol Concern. Bydd llawer ohonyn nhw yn trin problemau cyffuriau hefyd, felly dyma le da i ddechrau i unrhywun sy'n byw yn y DG.

Mae Canolfannau Cynghori Lleol yno i'ch helpu i daro golwg ar eich defnydd o gyffuriau neu alcohol - ac i weld a oes problem ganddoch chi. Os penderfynwch bod ganddoch chi broblem, yna byddan nhw'n eich helpu i gynllunio gweithredu er mwyn mynd i'r afael â'r peth.
Gall hyn olygu penderfynu lleihau eich defnydd o ddiod neu gyffur, ond os ych chi'n ddibynnol arnyn nhw, mae'n debyg y bydd angen help proffesiynol arnoch chi. Cwnsela efallai yn y Canolfan Gynghori, neu therapi mwy dwys - os felly, gall y Canolfan Gynghori eich cyfeirio at Ofal Dydd neu Ofal Preswyl.


Os ych chi'n pryderu am aelod o'r teulu neu gyfaill sy'n ymddangos bod ganddo/ddi broblem cyffuriau neu alcohol, gall eich Canolfan Gynghori Leol ddweud wrthych pa symtomau i chwilio amdanyn nhw. Gall hyn eich helpu i benderfynu ar realiti'r sefyllfa. Gallan nhw hefyd gynnig cynghorion i chi sut i weithredu, os o gwbl - er mwyn amddiffyn eich hunan ac i helpu'ch perthynas neu'ch cyfaill.

Nid llefydd i bobl sydd â phroblem cyffuriau neu alcohol yn unig yw'r Canolfannau Cynghori. Gallan nhw gynnig help a chefnogaeth i unrhywun o dan effaith camdriniaeth sylweddau. Mae hynny'n cynnwys teuluoedd a ffrindiau'r person sy'n camddefnyddio.