Teulu & Ffrindiau | Meddyg | Canolfan Gynghori | Cyfeillach | Gofal Dydd | Triniaeth Preswyl | Cwnsela
 

Cyfeillach Hunan-Gymorth

Cymdeithasau heb-wneud-elw yw rhai Cyfeillach Hunan-Gymorth, megis Alcoholigion Anhysbys a Narcotigion Anhysbys. Ynddyn nhw, mae pobl a gafodd broblemau dwys gydag alcohol neu gyffuriau, ond mewn adferiad ac yn cwrdd yn rheolaidd i helpu ei gilydd i gadw'n lân ac yn sobor.

Mae mudiadau cyfeillach megis Al-Anon a Theuluoedd Anhysbys yn bodoli er mwyn cefnogi aelodau teulu rhywun sy'n gaeth i alcohol neu gyffuriau.

Dim ond un peth sy'n angenrheidiol cyn perthyn i'r cymdeithasau megis AA neu NA. Hwn yw'r dyhead i stopio yfed neu ddefnyddio cyffuriau. Mae'r aelodau yn ANHYSBYS - dim ond wrth eu henwau cyntaf y cant eu 'nabod. Mae hyn yn wir gydag Al-Anon a Theuluoedd Anhysbys hefyd.

Mae'r cymdeithasau cyfeillach hunan-gymorth wedi darganfod mai llwyrymwrthod alcohol a/neu gyffuriau yw'r ffordd orau i lwyddo i gadw'n lân a sobor. Awgrymir bod aelodau yn dilyn rhaglen ymarferol adferiad (12 cam) - gyda chefnogaeth aelod profiadol (sponsor). Anogir aelodau i gyd-gyfarfod, lle gall unigolion rannu profiadau. Dylai bod man cyfarfod iddynt yn agos atoch chi.

Nid mudiadau crefyddol yw'r cymdeithasau cyfeillach hunan-gymorth hyn a dydyn nhw ddim yn dilyn unrhyw gred arbennig. Mae eu rhaglenni yn pwysleisio gwerth egwyddorion ysbrydol megis gonestrwydd, meddwl agored, bodloni a bod yn wylaidd wrth fyw bob dydd, ond unigolyn sy'n penderfynu sut i weithredu'r egwyddorion hyn.

Mae'r mudiadau hyn yn GWEITHIO! Canfyddodd cannoedd o filoedd o ddynion a merched fywyd newydd - heb ddefnyddio alcohol na chyffuriau - drwy gyd-gyfarfod mewn cyfeillach.

Os hoffech gysylltu ag un o'r cymdeithasau a restrir yma, yna chwiliwch yn y llyfr ffôn am eu rhif. Os nad oes un yno, gofynnwch amdano yn eich Canolfan Gynghori Leol, y Clinig Iechyd neu'r feddygfa.
Cewch ddolenni cyswllt â'r mudiadau hyn yn ein hadran Dolenni Cyswllt Gwefannau - dan y teitl, 'Cymorth a Chefnogaeth'.