Mae rhai manteision i Driniaeth Preswyl, o'i gymharu â Thriniaeth Gofal Dydd, er na fydd yn siwtio pawb. Er enghraifft, os bydd rhywun yn gyfrifol am ofalu am blant ifanc, efallai bydd mynychu Rhaglen Gofal Dydd yn eu siwtio'n well. Gall Triniaeth Preswyl hefyd fod yn ddrud, er bod help ariannol ar gael i rai mewn angen yn aml.
I'r rhai a fydd yn ei fynychu, mae Triniaeth Preswyl yn cynnig amgylchedd diogel, di-alcohol/gyffuriau lle gall pobl wynebu eu dibyniaeth gemegol a materion cysylltiol, gyda help gan staff cymwysedig.
Bydd therapi fel arfer yn cynnwys cymysgedd o gwnsela mewn grwp, cwnsela unigol a chyflwyniad i'r rhaglen adferiad 12 cam a ddilynir gan Alcoholigion Anhysbys a Narcotigion Anhysbys.
I'r rhai ohonoch sy'n byw yn y DG, mae yma restr o'r Canolfannau Triniaeth Preswyl yn y DG, lle gallwch gael mwy o wybodaeth.
Fedrwn ni ddim rhoi manylion holl Ganolfannau Triniaeth Preswyl ledled y byd. Os ych chi'n byw y tu hwnt i'r DG, gofynnwch i'ch Canolfan Gynghori neu eich Meddyg pa lefydd sydd ar gael yn eich ardal. Fodd bynnag, gwyddon ni am rai y tu allan i'r DG y gallwn eu cymeradwyo. Cliciwch yma i'w gweld.