Teulu & Ffrindiau | Meddyg | Canolfan Gynghori | Cyfeillach | Gofal Dydd | Triniaeth Preswyl | Cwnsela
 

Cwnsela

Gall cwnsela unigolyn fod o fantais fawr i rywun sy'n chwilio am help i wynebu eu problemau gyda chyffuriau neu alcohol. Gall cwnsela o'r fath helpu pobl sydd dan effaith camddefnydd alcohol neu gyffuriau aelod arall o'r teulu.

Gall cwnsela fod yn fwy priodol ac ymarferol na Gofal Dydd na Thriniaeth Preswyl i rai pobl. Er enghraifft, ni fydd rhywun sy'n gweithio amser-llawn yn gallu mynychu canolfan triniaeth. Ni all rhywun sy'n gofalu am blant chwaith gael rhywun i ofalu am y plentyn/plant am awr neu ddwy yn ystod y dydd. Yn yr achosion hyn, gall defnyddio cwnselwr/wraig l/leol - a threfnu apwyntiadau i siwtio sefyllfa'r person sy'n chwilio am help - fod yn ateb gwell.

Gallwch gael manylion Cwnselwyr/wragedd lleol drwy edrych yn y llyfr ffôn neu'r Tudalennau Melyn. Fel arall, bydd gwasanaeth cwnsela ar gael ym mwyafrif meddygfeydd. Gofynnwch i'ch meddyg pa wasnaethau cwnsela sydd ganddo/ddi.

Bydd rhai Cwnselwyr/wragedd preifat yn codi tâl am eu gwasanaethau - er y gallwch gael help gyda'r costau hyn. Gofynnwch i'r cwnselwr/gwnselwraig am hyn. Ni chodir pres am wasanaethau cwnsela eich meddygfa.

Bwriadwn roi manylion cyswllt rhai cwnselwyr/wragedd y gallwn eu hargymell ar y wefan hon. Mae rhestr ohonyn nhw isod - a byddwn yn parhau i ychwanegu mwy.


SWANSEA

Fred Tuohy WGCADA,

Address: 14 St James Crescent, Swansea.
Tel: 01792 472 2159


WESTON-SUPER-MARE

Premier Counselling - Non-residential Counselling, alcohol, drugs, aftercare, training, supervision, consultancy.

Address: 13 Boulevard, Weston Super Mare, North Somerset, BS23 1NR
Tel: 01934 642 882
Fax: 01934 642 882
Email: enquiries@premiercounselling.co.uk
Website: www.premiercounselling.co.uk