Os y'ch chi'n darllen hwn, 'dyw'ch chwilotwr ddim yn cynnal fframiau. Gallwch symud o'r fan hyn, ond rhaid i chi ddefnyddio botwm NÔL eich chwilotwr i gyrraedd nôl fan hyn bob tro y byddwch yn clicio ar rif tudalen.
Hei 'na
Ry'n ni'n falch eich bod chi'n ymweld
.
Felly - ry'ch chi'n meddwl bod gan rywun ry'ch chi'n adnabod broblem gyda chyffuriau neu alcohol?
Yn anffodus, mae llawer ohonom yn meddwl r'un fath, achos gall unrhywun ddatblygu problem gyda chyffuriau neu alcohol. Efallai eich bod chi'n pryderu am eich plentyn, eich gwr/gwraig, eich partner, eich rhiant/rhieni, eich brawd, eich chwaer, ffrind neu gydweithiwr.
Efallai eich bod wedi dod yma i ganfod beth allwch chi wneud i helpu. Iawn. Fe rown ni ryw syniad i chi am y ffordd orau i'w helpu . . . OND - byddwn hefyd yn sôn am sut gallwch chi helpu.
Yn ddryslyd? Efallai na wyddoch chi bod camddefnyddio cyffuriau mor niweidiol i'r teulu ac i ffrindiau ag y mae i'r person sy'n defnyddio - yn fwy hwyrach. Trafodwn hyn yn nes ymlaen.
Os ych chi'n ansicr a oes gan eich perthynas neu eich ffrind broblem cyffuriau (dim rheolaeth ar eu defnydd o gyffur/alcohol) - yn hytrach na'u bod yn defnyddio weithiau, edrychwch ar hyn yn gyntaf.
Gallwch edrych drwy'r adran hon drwy roi clic ar rifau'r tudalennau ar dop y sgrin. Mae pob tudalen yn un fer. Bydd yn cymryd tua 20 munud i ddarllen y cyfan.