Os y'ch chi'n darllen hwn, 'dyw'ch chwilotwr ddim yn cynnal fframiau. Gallwch symud o'r fan hyn, ond rhaid i chi ddefnyddio botwm NÔL eich chwilotwr i gyrraedd nôl fan hyn bob tro y byddwch yn clicio ar rif tudalen.
Hei 'na
!
Ry'n ni'n falch eich bod yn ymweld
.
Os ych chi'n credu bod gennych broblem gyda chyffuriau neu alcohol - yna safwch gyda ni. Ry'n ni'n gwybod sut mae. Mae pawb a helpodd i greu'r wefan hon wedi bod yn ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol yn y gorffennol.

Bydd defnyddio cyffuriau neu gamddefnyddio alcohol yn creu problemau bob amser. Gall rhain fod yn rhai difrifol iawn, achos mae camddefnyddio cyffuriau yn dolurio pob agwedd ar ein bywydau - hafoc i'n gwaith, i'n harian, i'n perthynas . . . ac i'n hapusrwydd. Pan na fedrwn reoli faint a gymerwn - a phan na fedrwn fynd hebddo mor hawdd ag o'r blaen.
Ydy hyn yn canu cloch

Dyma symtomau dibyniaeth. Fe welwch bod 'na amrywiaeth eang o ddibyniaeth ar gyffuriau. Ni raid bod yn gwbl-gaeth i heroin neu alcohol yn unig - gall ddigwydd i unrhyw un - hyd yn oed i rywun fel chi.
Awn yn fwy manwl yn nes 'mlaen. Rhowch gip fan hyn drwy roi clic ar rifau'r tudalennau sydd ar dop y sgrîn. Mae pob tudalen yn rhai byrion. Byddwch wedi eu darllen i gyd mewn rhyw 20 munud.

Gall rhain fod yn 20 munud pwysig iawn