TIM CYFFURIAU CENEDLAETHOL BLWYDDYN 2006 MYNEGAI
 

Elusen wedi'i chofrestru yn y DG yw Cyswllt Contact ac wedi'i sefydlu yn 1992. Cynigiwn Wasanaeth Dydd i roi help, cyngor a chefnogaeth i bobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol, ac i'w teuluoedd. Cynigiwn hefyd gefnogaeth i bobl gydag anhwylderau bwyta. Mae gan Cyswllt Contact staff ymroddedig, arbenigol ac sydd wedi eu hyfforddi.

Map of Wales Ry'n ni yn Aberystwyth yn sir Geredigion yng ngorllewin Cymru (y DG). Gallwch gysylltu â:

Cyswllt Contact
49 Rhodfa'r Gogledd
Aberystwyth
Ceredigion  SY23 2JN

Tel: 01970 626470  Ffacs: 01970 626644  -  neu drwy

Amserau agor: o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm

Cwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr (Rhif cofrestredig 03061079, Cyfeiriad Swyddfa Gofrestredig : 49 Rhodfa'r Gogledd, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JN) yw Cyswllt Contact Cyfyngedig.

Gallwch gysylltu â'n Canolfan Triniaeth yn Aberteifi yn:

12 Stryd Fawr
Aberteifi
SA43 1JJ
Tel: 01239 623831

Mae Cyswllt Contact yn cynnig:

Addysg am gamdriniaeth cyffuriau ac alcohol - ac adferiad.
Gwybodaeth am sut mae teuluoedd yn ymdopi â chamdriniaeth cyffuriau ac alcohol, a help i adnabod a gwella sefyllfa'r teulu.
Man arbennig a gofalgar lle gall pobl rannu profiadau gyda phobl eraill a all ddeall eu pryderon.

 
Cyfeirio
Does dim trefn ffurfiol cyfeirio gyda ni - y cyfan sy'n rhaid i chi wneud yw ffonio, ysgrifennu, e-bostio neu alw heibio i wneud apwyntiad. Ry'n ni'n croesawu pobl gyfeirir o bobman - gan feddygon teulu, seiciatryddion, nyrsus, gwasanaethau prawf, gweithwyr cymdeithasol, grwpiau gwirfoddol hunan-gymorth, teulu neu'r person ei hunan. Wedi'r asesiad cychwynnol, ein nod yw asesu pob cleient o fewn 10 diwrnod gwaith.

 
Asesiad Cychwynnol
Cewch asesiad i weld pa raglen fydd orau i chi. Wedi'r asesiad cychwynnol, os na fydd ein gwasanaethau ni yn addas, byddwn yn eich cyfeirio at fudiad arall mwy addas i'ch anghenion.

 
Rhaglen Ymwybyddiaeth Cyffuriau ac Alcohol
Mae'r rhaglen hon yn cynnig addysg a gwybodaeth am amryw agweddau ar gamdriniaeth cyffuriau ac alcohol, gan gynnwys effeithiau alcohol a chyffuriau eraill ar y corff, natur y ddibyniaeth a'r rhyddhad a ddaw wrth ddefnyddio, a sut y gall hyn effeithio ar fywyd y defnyddiwr/ddefnyddwraig a'i d/theulu.
Mae'r rhaglen yn para dwyawr bob wythnos am chwe wythnos.

 
Rhaglen Triniaeth Dydd
Rhaglen barhaol yn seiliedig ar lwyr-ymwrthod yw'r Rhaglen Triniaeth Dydd. Ei nod yw cefnogi pobl i gynnal bywyd yn rhydd o alcohol a chyffuriau. Mae hon rhwng 10am a 3pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

 
Rhaglen Ymyrraeth Cyffuriau
Cyswllt Ceredigion sy'n darparu'r Rhaglen Ymyrraeth Cyffuriau (DIP) i Geredigion. Rhaglen yn derbyn cyllid ledled y DG yw hon i helpu troseddwyr sy'n camdrin cyffuriau, drwy gynnig help a thriniaeth. Y nod yw eu helpu i ddianc o'u camdriniaeth a'u cylch troseddu er lles yr unigolyn a chymdeithas. Caiff pobl eu cyfeirio gan yr heddlu, y llysoedd, y gwasanaeth prawf, carchardai a chyfreithwyr. Gall cleientiaid DIP ymuno ag unrhyw raglen triniaeth a gweld gweithiwr/wraig gefnogi am help a chyngor ar faterion pob dydd.
I gael mwy o fanylion am DIP neu i gyfeirio rhywun at y rhaglen, os gwelwch yn dda.

 
Ôl-ofal
Cefnogaeth wythnosol am flwyddyn i bobl sy'n cymryd camau bregus, cynnar, adferiad.

 
Rhaglen i'r Teulu
Mae'r Rhaglen i'r Teulu yn agored i bobl dan effaith defnydd rhywun arall o alcohol neu gyffuriau. Drwy gael addysg a pherthynas â phobl eraill yn yr un sefyllfa, gall aelodau teuluoedd gychwyn gwneud newidiadau i wella'u bywydau.

 
Cwnsela
Darparwn gwnsela rhwng 1:1.

 
Galw-heibio
Gall pobl alw heibio rhwng 10.00am a 4.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Mae croeso i bawb ac mae te a choffi ar gael.

 
Grwp Myfyrio
Grwp yn cwrdd yn wythnosol. Cynigiwn amrywiaeth o ddulliau myfyrio.

 
Gwasanaeth Cefnogi
Cefnogaeth fewnol i bobl gyda materion lletya, arian a dyled, budd-daliadau, iechyd, cyflogaeth a hyfforddiant. Cefnogaeth wedi ei deilwra'n arbennig i unigolion er mwyn iddyn nhw ennill annibyniaeth drwy ddatblygu sgiliau a hyder.

 
Rhaglen Addysgol Ysgolion
Nod y Rhaglen Ysgolion yw codi ymwybyddiaeth pobl ifanc am ddefnydd cyffuriau ac alcohol, gan roi gwybodaeth iddyn nhw am rai o'r effeithiau, y peryglon a'r canlyniadau. Gyda'r disgyblion, mae'r rhaglen yn edrych ar agweddau gwahanol - dylanwad cyfoedion, sut i wrthod, sut i benderfynu a sut i adeiladu hunan-barch.

 
Hyfforddi Pobl Proffesiynol
Mae Cyswllt Contact yn cynnig hyfforddiant i bobl proffesiynol sy'n gweithio gyda chleientiaid camdriniaeth sylweddau neu gleientiaid dan effaith camddefnydd rhywun arall.

Ymysg y rhai a dderbyniodd hyfforddiant oddi wrthym mae: gweithwyr teuluol y gwasanaeth cymdeithasol, cwnselwyr/wragedd ysgol a phrifysgol, staff amrywiol fudiadau gwirfoddol.

Cewch fanylion ein cyrsiau hyfforddi drwy glicio yma: Cyrsiau Hyfforddi Ar-lein (dogfen Microsoft Word yw hon; cliciwch ar y chwith i'w hagor; cliciwch ar y dde a dewiswch 'Save Target As' i'w dadlwytho). Cysylltwch â ni i gael blaen-fanylion hyfforddiant.

 


Y Wefan hon

Bwriad y wefan hon yw rhoi gwybodaeth ac addysg i bobl am gamdriniaeth cyffuriau ac alcohol ac anhwylderau bwyta.

Gobeithiwn y gallwch archwilio mannau eraill yn y safle, am y bwriadwn ddarparu deunydd diddorol a gwybodus ar gyfer pob math o bobl - pobl ifanc yn eu harddegau, rhieni, athrawon ysgol, meddygon, pobl sy'n camdrin sylweddau, aelodau'r teulu - i enwi dim ond ychydig. Mae camdriniaeth cyffuriau ac alcohol yn effeithio ar bawb rywsut neu'i gilydd.

Dyw'r safle ddim yn orffenedig - fydd hi byth - byddwn ni'n dal i ychwanegu deunydd newydd ati.

Felly -  DALIWCH I DDOD NÔL!!

MYNEGAIMYNEGAI