| Os gwyddoch am unrhyw safleoedd gwerth chweil a ddylai fod yma, ni. |
| SAFLEOEDD YN Y DG |
| Talk to FRANK Gwybodaeth gyfrinachol am gyffuriau am ddim a chyngor 24 awr bob dydd drwy e-bostio neu ffonio (mae galwadau o ffonau cartref am ddim a fyddan nhw ddim yn ymddangos ar eich bil ffôn). Gwefan annibynnol gyda chyllid y llywodraeth. Bydd unrhyw gyswllt gyda Frank yn gwbl gyfrinachol. |
| Tackling drugs to build a better Britain Gwefan aml-bleidiol i gefnogi Strategaeth Genedlaethol Cyffuriau a gwaith y Tîmau Gweithredu ynghylch Cyffuriau. Dyluniwyd ar gyfer pobl broffesiynol ond cronfa ddefnyddiol o wybodaeth i unrhyw un â diddordeb. |
| Drug & Alcohol treatment in England and Wales Cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau adfer preswyl yng Nghymru a Lloegr i oedolion sy'n camdrin cyffuriau ac alcohol. Gwefan ardderchog os y'ch chi'n chwilio am ganolfan triniaeth preswyl yn y DG. Yn cynnwys popeth, ffioedd, rhaglenni, cyfleusterau detox a gwybodaeth a oes gwelyau gwag ar gael. |
| Wrecked (Think About Drink) Safle addysgol y GIG ynghylch camdrin alcohol. |
| FDAP - Federation of Drug and Alcohol Professionals Gwefan mudiad ymarferwyr proffesiynol y DG ym maes camdriniaeth sylweddau. |
| Drug Misuse Information in Scotland Safle dan reolaeth GIG Yr Alban ar ran Llywodraeth Yr Alban. Gwybodaeth, ystadegau ac ymchwil ynghylch gweithredu Strategaeth Gwybodaeth Camdriniaeth Cyffuriau Yr Alban. Wedi ei thargedu at lunwyr polisi, pobl broffesiynol, ymchwilwyr, cyflogwyr a'r gymuned ehangach. |
| |
| SAFLEOEDD EWROPEAIDD |
| European Union DG-V Directorate-General V yr Undeb Ewropeaidd sy'n gyfrifol am hybu iechyd cyhoeddus ac sy'n weithredol yn nifer o weithgareddau osgoi camdriniaeth cyffuriau. Llawer o wybodaeth yma, er nad yw'n hawdd twrio amdano. |
| ERIT - Federation of European Professionals working in the field of Drug Abuse Gwybodaeth a chyswllt i bobl broffesiynol sy'n gweithio ym maes camdrin cyffuriau. |
| |