| Mae'r safleoedd hyn mewn categorïau amrywiol. Byddwn yn ychwanegu mwy o ddolenni cyswllt i'r dudalen hon, felly os gwyddoch am safleoedd ddylai fod yma, |
|
|
| HUNAN-GYMORTH I BOBL SY'N DIODDEF CAETHIWED |
| Cymrodyr |
| Alcoholigion Anhysbys Gwasanaeth byd-eang AA. Cymrodyr o bobl mewn adferiad rhag alcohol, yn cwrdd yn rheolaidd i helpu ei gilydd i gadw'n sobor. Safle yn disgrifio'r mudiad a rhywfaint o lenyddiaeth sylfaenol ar-lein.
Alcoholics Anonymous Great Britain |
| Narcotics Anonymous (WSO) Swyddfa fyd-eang NA. Cymrodyr, pobl oedd yn gaeth ond sydd mewn adferiad ac yn cwrdd yn rheolaidd i helpu ei gilydd i gadw'n lân. Nid yw'r math o gyffur yn bwysig. |
| UK Region of Narcotics Anonymous Safle swyddogol y DG i'r mudiad. Mae'n cynnwys manylion yr holl gyfarfodydd yn y DG. |
| Overeaters Anonymous Gwasanaeth byd-eang Overeaters Anonymous. Cymrodyr, unigolion - oherwydd eu profiad cyffredin, eu cryfder a'u gobaith - yn gwella wedi bod yn gor-fwyta'n orfodol. Gwefan ardderchog, llwyth o wybodaeth, llenyddiaeth a manylion cyfarfodydd ym mhobman gan gynnwys rhai'r DG.
Overeaters Anonymous - UK |
| Mudiadau eraill |
| Somerset and Wessex Eating Disorders Association Gwefan dda iawn, iawn. Elusen gofrestredig, ddim yn gwneud elw, yn Street, Somerset, yn cynnig cefnogaeth i bawb a 'affeithir gan anhwylderau bwyta' ledled Somerset. Er mai elusen lleol yw SWEDA, mae eu gwefan yn llawn gwybodaeth o'r radd flaenaf am anhwylderau bwyta a dolenni cyswllt i rai gwefannau gwerthfawr eraill. Bwrdd hysbysu hefyd, lle gall pobl dderbyn cynhaliaeth. |
| The Obesity Awareness & Solutions Trust (TOAST) TOAST yw'r elusen eiriolaeth genedlaethol, yn cynnig dewis o wasanaeth gan gynnwys Llinell Ffôn Gymorth a Gwybodaeth, neu drwy e-bostio; yn ymwneud â gor-bwysau a gor-fwyta. Llawer o wybodaeth a chyngor ar y wefan - gan gynnwys fforwm drafod. |
| Addiction Recovery Foundation Gwefan yn cynnwys rhestr o fudiadau hunan-gymorth - a mwy. |
| Counselling Directory Gwefan yn rhoi canllaw cyflawn am lle mae cefnogaeth leol gyfrinachol i'w gael yn y DG. Pwrpas y safle yw galluogi pobl sy'n bryderus - am ba reswm bynnag - i ganfod cwnselwr agos a phriodol i'w hanghenion. Gwasanaeth am ddim. Cesglir yr wybodaeth o hyd, felly dim ond enw a chyfeiriad cwnselwyr/wragedd a geir ar hyn o bryd. Gwybodaeth am gaethiwo, camdriniaeth ac anhwylderau bwyta. |
|
|
| HUNAN-GYMORTH I BERTHNASAU A FFRINDIAU |
| Families Anonymous - UK Mudiad i berthnasau a ffrindiau pobl sy'n camdrin cyffuriau neu alcohol neu broblemau ymddygiad cysylltiedig. Safle'n disgrifio'r cymrodyr, gwybodaeth i deuluoedd a ffrindiau, a llenyddiaeth FA ei hun. |
| Adfam Elusen genedlaethol yn gweithio gyda theuluoedd dan effaith cyffuriau ac alcohol yw Adfam ac ar y blaen gyda gwaith sylweddau a theuluoedd. Yn darparu dewis o gyhoeddiadau ac adnoddau i deuluoedd ynghylch sylweddau a chyfiawnder troseddol; yn gweithredu bwrdd negesau ar-lein a chronfa ddata grwpiau cymorth lleol all helpu teuluoedd i glywed oddiwrth a thrafod gyda phobl sy'n deall eu sefyllfa. Mae Adfam hefyd yn cynnal gwasanaethau cefnogi yng ngharchardai Llundain i deuluoedd carcharorion dan effaith cyffuriau. Rhestr o gyhoeddiadau ac adnoddau ar-lein. |
| Al-Anon UK & Eire Al-anon yw mudiad cymrodyr yn bodoli er mwyn helpu teuluoedd a ffrindiau pobl gaeth i alcohol fedru adfer rhag effeithiau byw gyda phroblem yfed naill ai aelod o'r teulu, perthynas neu ffrind. Gwefan y DG ac Eire gyda llwyth o wybodaeth a manylion cysylltiadau lleol. |
| Al-Anon / Al-Ateen - World Service Office Gwefan Unol Daleithiau America yn cynnwys llwyth o wybodaeth i berthnasau neu ffrindiau alcoholigion; manylion llenyddiaeth etc. |
|
National Association for Children of Alcoholics (NACOA) PO Box 64 Fishponds Bristol BS16 - 2HU Tel: 01179 248005 (Free) Helpline : 0800 3583456 Elusen cofrestredig sy'n helpu plant teuluoedd lle mae un neu'r ddau riant yn dioddef alcoholiaeth - neu broblem gaethiwo debyg, gan gynnwys camdriniaeth cyffuriau. |
| Victims Forgotten Man trafod. "Wedi'n sefydlu i helpu a chefnogi ffrindiau, teuluoedd a phartneriaid pobl sy'n dioddef caethiwed i gyffuriau ac alcohol. Dewch i'n gweld." |
| Counselling Directory Gwefan yn darparu canllaw cyflawn ar gefnogaeth gyfrinachol yn y DG. Mwy o wybodaeth uchod. |
|
|
| CEFNOGAETH LEOL YN Y DG |
|
TIDE Gwefan fechan TIDE (Turning the tide of drug/alcohol misuse in Littlehampton) - grwp gwirfoddol yn Littlehampton, West Susex, yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n camdrin cyffuriau/alcohol, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Yn cwrdd unwaith y mis a llinell gymorth 24 awr hefyd.
Al-Anon Southeast
NODYN: Ry'n ni'n credu bod grwpiau lleol hunan-gymorth fel hyn yn BRILIANT a hoffem lunio tudalen ar wahan o ddolenni cyswllt i gynnwys grwpiau felly yn y DG. Os gwyddoch chi am rai - dwedwch wrthon ni andanyn nhw os gwelwch yn dda. |
| SAFLOEDD ADFER ERAILL |
| Molly's Alcoholics Anonymous UK Homepage
Gwefan wych a llawer o ysbrydoliaeth ynddi gogyfer ag adferiad. Nod y safle yw darparu gwybodaeth am AA a manylion i bobl sydd am gysylltu ag AA yn y DG. Fforwm hefyd i aelodau AA fedru rhannu eu profiad, eu cryfder a'u gobaith. |
|
|
| CYFARFOD MEWN SGWRS NEU E-BOST |
| Earth Group NA Man cyfarfod e-bost i bobl mewn adferiad (gan gynnwys rhag alcohol). Gwefan yn llawn gwybodaeth am raglen NA a sut y mae'n helpu pobl i fod yn lân a chadw'n lân. Digon o gefnogaeth ar-lein; mwy na 1,100 o aelodau ledled y byd! Stafell Sgwrsio hefyd yn cwrdd yn rheolaidd, weithiau trafod 'pwnc', weithiau'n agored, h.y. unrhywbeth sy'n effeithio ar eich adferiad. Cyfarfodydd marathon adeg gwyliau cyhoeddus. Dilynwch y ddolen gyswllt o'r dudalen gartref i'r stafell/oedd sgwrsio. Awgrymwn ddull o ddefnyddio'r stafell sgwrsio ac mae rhestr amserau cyfarfod yn amserau Efrog Newydd...mae'r DG bum awr o'u blaenau. |
|
|
| MUDIADAU CEFNOGOL ERAILL (Y DG) |
| MIND Mudiad cenedlaethol iechyd meddwl a swyddfeydd ledled Cymru a Lloegr yn gallu darparu cefnogaeth i ddefnyddwyr tawelyddion/tranquillisers ac sy'n darparu grwpiau hunan-gymorth. |
| Y Samariaid Elusen yn darparu cefnogaeth emosiynol cyfrinachol yw'r Samariaid i unrhywun sy'n ystyried hunan-laddiad neu sydd mewn anobaith. Gwasanaeth 24 awr gan wirfoddolwyr hyfforddedig. Cyswllt drwy wefan, e-bost, ffôn neu lythyr. |
| Cyngor Ar Bopeth Cyngor cyfrinachol, annibynnol di-duedd - am ddim - ar bob pwnc. Atebion i gwestiynau am fudd-daliadau, llety, gwahaniaethu a'r gyfraith etc. Does dim gwybodaeth benodol am gyffuriau nac alcohol ar y wefan hon. |