Gwefannau Gwych: Ein Dewis Ni

Does dim cymaint o wybodaeth am gyffuriau ar y safleoedd hyn ag sydd ar eraill - maen nhw ynghylch adferiad rhag camdriniaeth cyffuriau ac alcohol. Os gwyddoch chi am safleoedd gwerth chweil y dylen ni gynnwys, ni.

talk don't WALK   
Cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth yw Talk don't WALK i bobl ifanc a adawodd gartref neu sy'n ystyried gadael cartref neu ofal.
Llinell gymorth - -800 085 2136
Molly's Alcoholics Anonymous UK Homepage   
Safle wych ac ysbrydoliaeth am adferiad. Nod y safle yw darparu gwybodaeth am AA a manylion i bobl sydd am gysylltu a'r Gymrodoriaeth yn y DG. Fforwm hefyd i aelodau AA fedru rhannu eu profiad, eu cryfder a'u gobaith.
Alcoholics Anonymous. How to Find AA in England, Scotland and Wales.   
Gwefan answyddogol, gwybodaeth am AA yn Lloegr, Yr Alban a Chymru. Manylion cyfarfodydd. Rhestrau cyflawn o bob cyfarfod AA yn fisol. Cyfarfodydd newydd y mis hwn. 'Be' sy' mlaen yn AA yn y DG'. Cysylltiadau cenedlaethol a rhyng-wladol a cherdiau AA i'w danfon i'ch ffrindiau. Adnodd Adfer ffantastig yn y DG.
Somerset and Wessex Eating Disorders Association   
Gwefan dda iawn, iawn. Elusen gofrestredig, ddim yn gwneud elw, yn Street, Somerset, yn cynnig cefnogaeth i bawb a 'affeithir gan anhwylderau bwyta' ledled Somerset. Er mai elusen lleol yw SWEDA, mae eu gwefan yn llawn gwybodaeth o'r radd flaenaf am anhwylderau bwyta a dolenni cyswllt i rai gwefannau gwerthfawr eraill. Bwrdd hysbysu hefyd, lle gall pobl dderbyn cynhaliaeth.
Talk to FRANK  
Gwybodaeth gyfrinachol am ddim am gyffuriau a chyngor 24 awr y dydd drwy e-bostio neu ffonio (mae galwadau ffonau cartref am ddim a fyddan nhw ddim yn ymddangos ar eich bil ffôn). Gwefan annibynnol gyda chyllid y llywodraeth. Bydd unrhyw gyswllt gyda Frank yn gwbl gyfrinachol.
Al-Anon Southeast   
Safle ardderchog a ddatblygwyd i bobl yn byw yn Ne Ddwyrain Lloegr ac sy'n chwilio am help gyda chamdriniaeth alcohol aelod o'r teulu neu ffrind. Yn cynnwys llwyth o wybodaeth am sut i ddelio â chamddefnydd alcohol rhywun arall.
NA meetings by chat & email: Earth Group   
Earth Group NA yw 'cyfarfod' e-bost pobl mewn adferiad (gan gynnwys rhag alcohol). Gwefan yn cynnwys gwybodaeth am raglen NA a sut y gall helpu pobl i fod yn lân a chadw'n lân. Stafell sgwrsio i drafod adferiad hefyd. Dilynwch y dolenni cyswllt o'r dudalen gartref. Digon o gefnogaeth ar-lein!
Sobriety and Recovery Resources   
Dyma wefan BRILIANT! Llwyth o ddolenni cyswllt ag adnoddau adfer rhag pob math o gaethiwed (e.e. i alcohol, cyffuriau, gamblo, cyd-ddibyniaeth etc). Dolenni cyswllt â bwletinfyrddau a stafelloedd sgwrsio eraill. Ewch i gael golwg arni.
Counselling Directory  
Gwefan yn rhoi canllaw cyflawn am lle mae cefnogaeth leol gyfrinachol i'w gael yn y DG. Pwrpas y safle yw galluogi pobl sy'n bryderus - am ba reswm bynnag - i ganfod cwnselwr agos a phriodol i'w hanghenion. Gwasanaeth am ddim. Yn casglu gwybodaeth o hyd, felly dim ond enw a chyfeiriadau cwnselwyr/wragedd sydd yma ar hyn o bryd.
Gwybodaeth am gaethiwed, camdriniaeth ac anhwylderau bwyta.