Gwefannau answyddogol

Os gwyddoch am unrhyw safleoedd gwerth chweil a ddylai fod yma, ni.
MUDIADAU'R DG
Addiction Today 
Addiction Today yw'r unig gyhoeddiad yn y DG yn unig am driniaeth (yn hytrach na'r broblem), a'r unig un ynghylch dim ond llwyr-ymwrthod. Archif am ddim y gellir chwilota ynddi am erthyglau ar wahanol agweddau caethiwed ac adferiad. Gwybodaeth hefyd am swyddi yn y maes.
DrugScope  
Drugscope - yn bodoli er mwyn darparu gwybodaeth oddrychol, gywir a chyfredol am holl agweddau camdriniaeth cyffuriau i bobl broffesiynol, llunwyr polisi ac ymchwilwyr. Bwriad: gostwng effeithiau niweidiol defnydd cyffuriau drwy ddadl wybodus a hyrwyddiad ymarfer gorau a gwasanaethau effeithiol cyflawn.
Scottish Drugs Forum
Asiantaeth genedlaethol polisi a gwybodaeth am gyffuriau, heb fod dan reolaeth unrhyw lywodraeth, ac yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gydlynu ymatebion effeithiol i ddefnydd cyffuriau yn Yr Alban.
Alcohol Concern 
Asiantaeth genedlaethol yn delio â chamddefnydd alcohol.
Alcohol Services Directory  
Cyfeiriadur cyflawn yn manylu gwasanaethau i rai y mae yfed yn broblem iddyn nhw, ym mhob ran o Gymru a Lloegr. Rhan o wefan Alcohol Concern.
The Obesity Awareness & Solutions Trust (TOAST)
Elusen genedlaethol eiriolaeth yw TOAST yn cynnig dewis o wasanaethau sy'n delio â phob agwedd o faterion gor-dewdra a gor-bwysau.
BBCi Health - The Addictions Guide 
Safle yn darparu gwybodaeth eang, cyngor a chysylltiadau am ysmygu, alcohol, cyffuriau a sylweddau eraill.
The WIRED Initiative
Datblygwyd y WIRED Initiative i helpu unigolion, teuluoedd, a chymunedau i daclo camdriniaeth cyffuriau ac alcohol.
Re-Solv  
Yr unig elusen yn y DG ar gyfer arbed camdriniaeth hylifau toddi/solvents a sylweddau tebyg. Gwefan yw Re-Solve sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl i rywun sy'n pryderu ynghylch camdriniaeth y sylweddau hyn. Gellir dadlwytho taflen i rieni yn un adran y wefan hon.
European Association for the Treatment of Addiction (UK).
Elusen annibynnol yw EATA a'i nod yw helpu sicrhau bod pobl sy'n dibynnu ar gyffuriau neu alcohol yn cyrraedd triniaeth sydd ei angen arnyn nhw, mewn pryd. Gwybodaeth dda i bobl broffesiynol o bob math yn gweithio gyda'r sawl sy'n gaeth i gyffuriau neu alcohol.
The Right Route
Ymgynghorwyr, Datblygwyr a Hyfforddwyr sector Cyffuriau ac Alcohol Cyfiawnder Troseddol. Yn gweithio gyda charchardai, DATau, Progress2Work, asiantaethau triniaeth cyffuriau/alcohol a DIP. Rhaglenni a mentrau ledled y wlad i gyflwyno pobl mewn adferiad i waith cyflogedig.
The Site  
Safle adnoddau fawr ar y rhyngrwyd i bobl ifanc. Llwyth o wybodaeth am gyffuriau ac alcohol, gan gynnwys gwasanaethau. Safle wych.
MUDIADAU ERAILL
Hazelden  
Canolfan driniaeth enwog dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol Unol Daleithiau America, adnoddau ar-lein, gan gynnwys gwybodaeth, storfa lyfrau, myfyriadau, stafelloedd sgwrsio a llawer o erthyglau ynghylch amrywiol agweddau camdriniaeth cyffuriau/alcohol ac adferiad.