Problem gyffuriau . . . neu beidio?
Pan fyddwn ni'n dweud problem cyffuriau neu alcohol
ryn ni'n sôn am sefyllfa lle mae unigolyn wedi colli rheolaeth ar ddefnydd o ddiod neu gyffur. Golyga hyn gymryd mwy o ryw gyffur nag arfer, cymryd cyffur yn amlach, neu gymryd gwahanol fathau o gyffuriau. Cofiwch
lle bynnag y defnyddiwn ni'r gair 'cyffur' yma, ry'n ni'n cynnwys alcohol.
Y math o symtomau a allai awgrymu bod gan rywun broblem cyffuriau yw os byddai rhywun:
- Yn gwadu neu yn ceisio cuddio'u defnydd o alcohol neu gyffuriau.
- Yn esgus eu bod yn defnyddio llai o gyffuriau neu alcohol nag y maen nhw mewn gwirionedd.
- Yn gwadu bod problem ganddyn nhw am eu bod nhw'n defnyddio dim ond cwrw, cannabis neu ryw sylwedd arall sydd, mae'n ymddangos, yn sylwedd "diniwed".
- Yn ymddwyn yn wahanol o dan ddylanwad y sylwedd (yn uwch eu cloch efallai neu yn fwy ymosodol nag arfer).
- Yn osgoi trafod eu defnydd o gyffuriau neu alcohol - a'u hymddygiad pan font o dan ddylanwad rhain.
- Yn anghofio neu'n gwadu pethau ddigwyddodd o dan ddylanwad sylweddau.
- Yn cael problemau sy'n perthyn yn uniongyrchol i'w defnydd o alcohol neu gyffuriau - damweiniau, problemau ariannol, anhawsterau yn yr ysgol, anghytuno gydag athrawon, teulu a hen ffrindiau etc.
- Yn bychanu amlder a nifer y problemau sydd gyda'u defnydd o gyffuriau neu alcohol.
- Yn dewis ffrindiau sydd yn ddefnyddwyr sylweddau.
- Efo syniad isel ohonyn nhw'u hunain ac yn defnyddio alcohol neu gyffuriau i deimlo'n well.
Os credwch bod eich plentyn yn arddangos unrhyw rai o'r symtomau camddefnydd cyffuriau hyn
- yna ry'ch chi'n iawn i bryderu yn ei g/chylch - a bydd yn help os darllenwch drwy'r adran gyfan hon i rieni.
Os nad yw eich plentyn yn arddangos unrhyw rai o'r symtomau hyn, os buon nhw'n wir yn cymryd cyffuriau neu alcohol, mae'n debyg mai dim ond ambell waith y bu hynny - efallai wrth arbrofi.
Mae llawer o bobl ifanc yn gwneud hyn
- a'r peth gorau gallwch chi wneud yw trafod gyda nhw ac esbonio peryglon a chanlyniadau defnydd cyffuriau neu alcohol.
Er hynny
anogwn chi i ddarllen drwy'r adran hon i rieni, petae dim ond er mwyn dysgu am ffyrdd priodol o ddelio gyda phlentyn sydd â phroblemau gydag alcohol neu gyffuriau. Pwy a wyr, efallai bydd rhiant arall yn gofyn am eich cyngor rywdro.
NÖL