Felly ry'ch chi'n credu bod gan eich plentyn broblem gyda chyffuriau neu alcohol.

Sut r'ych chi'n teimlo . . .
YN DDIG ?

YN ISEL EICH YSBRYD ?

YN UNIG ?

AR EICH PEN EICH HUNAN ?
Ydy hi'n ymddangos mai . .
FY MAI I YW'R CWBL !

Ydych chi'n MEDDWL BYTH A BEUNYDD - am y plentyn yma
Heb roi llawer o amser i neb arall?

Os mai dyma rai o'ch teimladau chi, cofiwch - NID CHI YW'R UNIG UN I'W TEIMLO - bydd mwyafrif rhieni plant sy'n camdrin cyffuriau neu alcohol yn teimlo fel hyn. Gadewch i ni weld sut mae'r teimladau hyn yn gyrru llawer o rieni i wneud pethau . . .