Gall hyn gynnwys:
![]()
Holi beth maen nhw'n ei wneud - gofyn lle buon nhw - a gyda phwy.
Bygwth - "Os gwnei di hyn eto, wna i ddim prynu'r jeans newydd 'na i ti!".
Craffu arnyn nhw - chwilio ymysg eu pethau am arwyddion defnydd cyffuriau neu alcohol.
Cosbii - eu gwahardd rhag mynd allan ...atal eu harian poced.
Bygwth yn emosiynol - "Mae Taid yn gofidio'n ofnadwy bod ti'n gwneud hyn".
Dwyn gwarth arnyn nhw - "Rwy'n siomedig iawn ynot ti".
Ydych chi'n adnabod y math hwn o ymddwyn Dyma'r math o ymdrechion i reoli'r sefyllfa y bydd llawer o rieni'n troi atyn nhw pan fydd eu plant yn camdrin cyffuriau neu alcohol.
Felly - rhaid gofyn . .
Yn ein profiad ni, nid yw ymdrechu rheoli'r sefyllfa yn help i'r plentyn i ddelio gyda phroblem cyffuriau neu alcohol - nac i'r rhiant/rhieni chwaith. Mae'n niweidio'r teulu cyfan. Gadewch i ni weld pam . . .