Mae ymdrechu rheoli camdriniaeth plentyn o gyffur neu alcohol yn aml yn gwneud niwed oherwydd:

 Dy'n nhw ddim yn gweithio.
Er y bydden ni'n hoffi ei reoli, fedrwn ni ddim rheoli ymddygiad person arall. Er yr holl ymdrech allwch chi ddim bod gyda'ch plentyn 24 awr y dydd. Hefyd, mae'r ymdrechu ei reoli yn gallu gwneud i blentyn deimlo'n ddig - ac efallai'n fwy tebygol o gamdrin cyffuriau neu alcohol, er mwyn bod yn rebel.

 Bydd dicter a rhwystredigaeth yn cynyddu.
Pan fydd yr ymdrech i reoli'r sefyllfa yn methu, ry'ch chi'n debyg o deimlo'n ddig a rhwystredig Bydd eich plentyn hwyrach hefyd yn profi'r teimladau hyn. Y canlyniad fydd tensiwn ac anhapusrwydd yn y cartref.

 Bydd y plentyn yn cael yr holl sylw.
Os bydd eich egni i gyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod y plentyn ddim yn camdrin cyffuriau neu alcohol, bydd anghenion aelodau eraill y teulu yn cael eu hesgeuluso. Gallan nhw deimlo'n ddig.

 Y cylch diderfyn  
Pan fydd yr ymdrechion i reoli'r sefyllfa'n methu, bydd rhiant yn aml yn ymdrechu mwy - ac yn gwaethygu'r sefyllfa negyddol a ddisgrifiwyd uchod. Bydd yn mynd yn gylch diderfyn.

D'yw hyn ddim yn gweithio rhaid i ni chwilio am ffordd arall . .