Felly, pa ffordd arall sydd i drin y sefyllfa

YN GYNTAF - gallwn dderbyn bod angen i ni newid ein hymddygiad ni'n hunain. Yn eich achos chi, hwyrach y bydd hyn yn golygu newid y ffordd fuoch chi'n trin y sefyllfa hyd yn hyn. Mae'n golygu herio'r agweddau a'r ffordd o feddwl a'ch arweiniodd i geisio rheoli'r sefyllfa - achos fel y gwelson ni, doedd hynny ddim yn gweithio.

Yn gyntaf mae angen i chi beidio ceisio newid y ffordd mae'r plentyn yn ymddwyn - a dechrau newid y ffordd ry'ch chi'n trin pethau.

YN AIL - gallwn dderbyn bod angen help arnon ni gyda hyn. Hyd yn hyn, fe fuoch chi'n ceisio trin y sefyllfa ar eich pen eich hunan Mae hynny'n anodd iawn. Er mwyn newid y ffordd ry'ch chi'n trin y peth - mae angen cefnogaeth arnoch chi. Mae'n bwysig i chi gael hwn o'r tu allan i'r teulu yn ogystal ag o fewn y teulu.

Fe welwch chi gysylltiadau gyda nifer o fudiadau hunan-gymorth yn ein hadran CYSYLLTIADAU. Mae rhain ar gyfer pobl all helpu ei gilydd wrth wynebu problem sy'n gyffelyb rhyngddyn nhw. Pan na fydd y gwefannau ar gael - bydd cysylltiadau ledled y DU yn cael eu cynnigi. Dyma enghreifftiau: FAMILIES ANONYMOUS, ADFAM neu AL-ANON. Chwiliwch arndanyn nhw

Iawn - rwy wedi cael gafael ar gefnogaeth, beth wedyn?

- Gadewch i ni wneud rhai newidiadau . .