Yn gyntaf peidiwch canolbwyntio ar y plentyn yma. DATGYSYLLTWCH. Dyw hyn ddim yn golygu nad ych chi'n ei garu/charu, ond mae'n rhoi cyfle i'r plentyn wneud ei ddewisiadau ei hunan. Rhaid iddo/iddi wneud hyn er mwyn profi canlyniadau eu gweithredoedd.
Cliciwch yma i gael gweld rhai awgrymiadau ar sut i ddatgysylltu.
Pan fyddwch yn datgysylltu, bydd amser ac egni gennych i astudio'ch bywyd chi - eich problemau chi'ch hunan. Byddwch yn dysgu bod rhoi'r bai ar eraill eich bod yn anhapus yn afrealistig a di-ddim.
Cofiwch
dim ond am eich ymddygiad eich hunan rych chi'n gyfrifol. Byddwch yn helpu'ch plentyn drwy roi trefn ar eich bywyd chi'ch hunan.
Yna - gallwch OSOD TERFYNAU - rhain sy'n dweud beth sy'n dderbyniol ac annerbyniol i chi.
Felly
gallwch osod rheolau i'ch plant - peidio defnyddio alcohol na chyffuriau yn eich cartref - sy'n seiliedig ar eich terfynau chi. CADWCH ATYNT - YN BENDANT. Bydd CANLYNIADAU - yn digwydd os torrir y rheolau hyn - rhai cyfreithiol efallai, colli arian poced ac amser rhydd etc. Rhaid esbonio'n glir y rheolau a'r canlyniadau. Mae'n syniad da eu hysgrifennu.
Cliciwch yma i weld awgrymiadau ar osod terfynau.