Mae datgysylltiad iachus a gosod terfynau yn cyd-weithio

Wrth i chi ddatgysylltu oddiwrth weithredoedd eich plentyn rych chi'n dal i dderbyn cyfrifoldeb am drin y sefyllfa drwy ymyrryd i'w helpu yn y dull gorau iddyn nhw.

Mae eich datgysylltiad yn golygu y gallwch . . .
  • Ddatglymu eich bywyd chi a bywyd eich plentyn. Hynny yw, peidio dibynnu arnyn nhw i fod yn rhydd oddiwrth alcohol neu gyffuriau cyn gallwch chi fod yn hapus a bodlon.
  • Peidio gofidio nac ofni. Ail-adeiladu eich hunan-barch. Bod yn berson cyfan unwaith eto.

    Bydd y terfynau a osodwyd gennych yn . .
  • Sicrhau bod rheswm gan eich plentyn i stopio defnyddio sylweddau wrth iddo/iddi brofi canlyniadau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
  • Helpu'ch plentyn deimlo'n fwy diogel drwy roi rheolau pendant iddo/iddi i'w dilyn.
  • Eu helpu i ddechrau cymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw'u hunain.

    Eich helpu chi a'ch plentyn i symud ymlaen o deimlo dicter a gwarth - i fod yn unigolion unwaith eto. Bydd y ddau/ddwy ohonoch yn gyfrifol am eich bywydau eich hunain.

    Gadewch i ni weld sut y gall pethau newid . . .