Datgysylltu

Mae datgysylltu yn hawdd siarad amdano ond yn anodd ei ymarfer. Ei ystyr yw na fyddwch yn gyfrifol AM eich plentyn, ond yn gyfrifol I'CH plentyn.

Dylai pob rhiant ddysgu dull iach o fyw i'w plant, ond all neb orfodi plentyn i ymddwyn felly - nhw sy'n dewis - dyna'u cyfrifoldeb.

Gallwch ddweud wrth eich plentyn sut ry'ch chi'n teimlo, beth ry'ch chi'n ei gredu - yna gadewch iddyn nhw benderfynu. Mae hyn yn rhan o dyfu fyny - dysgu cymryd cyfrifoldeb am eu bywydau.

Felly er mwyn datgysylltu, mae angen i chi stopio:
  • busnesu . .
  • cwestiynu . .
  • bygwth . .
  • holi . .
  • twyllo . .
  • poenydio . .
  • arolygu . .
. . neu byddwch yn teimlo wedi drysu!

Hefyd, rhaid i chi beidio GALLUOGI eich plentyn Ystyr hyn yw eich bod yn peidio ceisio'i amddiffyn rhag canlyniadau camdrin cyffuriau neu alcohol.
e.g.:

  • Ysgrifennu esgusodion salwch i'r ysgol
  • Cuddio'u hymddygiad rhag teulu a ffrindiau
  • Benthyg neu roi arian iddyn nhw
  • Esgus nad oes dim o'i le

Byddgalluogi eich mab neu eich merch yn eu helpu i barhau i gamdrin cyffuriau neu alcohol Fydd dim rheswm ganddyn nhw i beidio.

Wrth DDATGYSYLLTU oddi wrth ymddygiad eich plentyn a pheidio GALLUOGI, dy'ch chi ddim yn gollwng gafael. Dy'ch chi ddim yn dweud nad y'ch chi'n hidio. Ry'ch chi'n dweud eich bod chi ddim am esgusodi eu hymddygiad ddim mwy.

Er mwyn egluro nad y'ch chi'n gollwng gafael - dwedwch yn glir y byddwch chi'n eu cefnogi os byddan nhw'n penderfynu cael help gyda'u camdriniaeth o gyffuriau ac alcohol.

NÖLNÖL