Gosod Terfynau

Wrth osod terfynau, byddwch yn creu rheolau.
Er enghraifft:
  • Ydych chi'n hapus eu bod yn defnyddio cyffuriau neu alcohol?
  • Yn eu hystafell? Yn y cartref?
  • Yn dod ag eraill sy'n camdrin adref?
CHI sy'n penderfynu beth sy'n dderbyniol ac yn annerbyniol. Yna gallwch egluro'r terfynau i'ch plentyn (bydd yn well eu hysgrifennu) ac esbonio y bydd canlyniadau wrth fynd tu hwn i'r terfynau.

Canlyniadau

Yna penderfynwch beth wnewch chi os ân nhw tu hwnt i'r terfynau.

- Beth wnewch chi os dôn' nhw â chyffuriau i'r cartref?
  • Distrywio'r cyffuriau?
  • Galw'r heddlu?
  • Gwahardd eich plentyn o'ch cartref? (os ydyn nhw'n ddigon hen).

- Beth wnewch chi os byddan nhw'n cymysgu gyda defnyddwyr eraill cyffuriau neu alcohol?
  • Rhwystro'u rhyddid?
  • Lleihau eu harian poced?
  • Dweud wrthyn nhw i beido ymweld (os ydyn nhw'n ddigon hen).
Chi fydd yn penderfynu beth fydd canlyniadau mynd tu hwnt i'r terfynau - a chi fydd yn eu hegluro i'ch plentyn.

a . .

RHAID GLYNU WRTH EICH PENDERFYNIADAU

 
Ni fydd croeso i'r newidiadau a wnewch - am na fyddwch bellach yn chwarae'r gêm. Ar y cychwyn, mae'n debyg y bydd eich plentyn yn ceisio rhoi profi'ch terfynau gydag ymddygiad fydd yn ceisio hawlio pethau neu'n gwneud i chi newid eich meddwl.

Ond cofiwch bydd eich plentyn yn DDA IAWN am geisio gwneud i chi newid eich meddwl - felly byddwch yn wyliadwrus!

Hwyrach bydd angen cefnogaeth arnoch ar amser fel hyn - i'ch cefnogi i beidio newid eich meddwl.

Pan fydd eich plentyn yn deall na all newid eich meddwl - ac y bydd canlyniadau os bydd yn mynd y tu hwnt i'r terfynau - ni fydd yn hoffi'r sefyllfa, ond ennillwch barch ganddo/ddi am sefyll yn gadarn.

NÖLNÖL