Eeyore Deimloch chi 'rioed bod chi ddim cystal â phobl eraill ?

Ddim mor bert, mor gryf, mor glyfar, mor ddoniol - mor . . . beth bynnag. Dyna deimlad ofnadwy, ynte?

Pan fo ni ddim yn teimlo'n dda amdanon ni'n hunain, falle byddwn ni'n trio cael teimladau da mewn unrhyw ffordd allwn ni. Achos rhaid i bawb deimlo'n dda amdano'i hunan.

Bydd rhai pobl yn cymryd cyffuriau i wneud iddyn nhw 'deimlo'n well' - am ychydig. Yn bertach, yn gryfach, yn fwy clyfar, yn fwy doniol mewn cwmni, neu beth bynnag . . .

Wrth gwrs dy'n nhw ddim yn teimlo'n well yn wir. Dim ond ffantasi yw hyn - sy'n dirwyn i ben. Rhaid cymryd cyffuriau eto . . . ac eto . . . ac eto . . . i drio cadw'r teimlad i fynd.

Allwn ni ddim PRYNU teimladau da Allwn ni gael teimladau da wrth helpu rhywun, wrth wneud rhyw waith da, wrth gael hwyl gyda'n ffrindiau, pan fydd person yn dweud "diolch" wrthon ni.

Dyna pryd gawn ni deimladau da - ac mae'n REAL - d'yw hyn ddim yn diflannu.