![]()
Bu lot o'm ffrindiau i farw
dw'i ddim yn dweud celwydd. Buon nhw farw am iddyn nhw gymryd cyffuriau. Rhai o'm ffrindiau gorau i - Keith, Andy, Colin, Janine. Talon nhw bris uchel iawn dim ond i gael teimlo'n dda am ychydig.
![]()
Rwy'n gweld eisiau fy ffrindiau - wir yr. O na bae nhw yma heddiw.
![]()
Ro'n ni'n meddwl bod cannabis yn OK i gychwyn - nes 'mlaen, ro'n ni'n meddwl bod cyffuriau eraill yn OK hefyd.
Addawon ni i'n gilydd beidio byth cymryd cyffuriau eraill - ond wedyn, gymron ni nhw.
Freuddwydion ni ddim y gallai neb ohonon ni farw. Byth. Yna roedd hi'n rhy hwyr . . .