Bydd llawer o oedolion yn yfed alcohol. Mae'r mwyafrif yn yfed nawr ac yn y man - dyw hynny ddim yn achosi problemau. D'yw mwyafrif oedolion ddim yn camdrin cyffuriau neu alcohol
![]()
Ond bydd rhai yn eu camdrin - ac yn achosi poen i'w plant. Gallwn garu ein rhieni - ond gallwn eu casau pan fyddan nhw'n camdrin cyffuriau neu alcohol.
![]()
Bydd rhai pobl ifanc yn credu - am eu bod nhw'n nabod oedolion sy'n cymryd cyffuriau neu'n camdrin alcohol - ei bod hi'n OK i wneud hynny. Ond mae hynny'n wallgo!
![]()
Os ych chi'n nabod oedolyn - efallai yn eich teulu chi - sy'n camdrin cyffuriau neu alcohol, yna dylech edrych ar ôl eich hunan
nid eu copio nhw!
![]()
Dwedwch wrth bobl eraill sut r'ych chi'n teimlo am y peth. Wrth ffrind da efallai - neu wrth athro. Peidiwch a'u gau y tu fewn i chi - lle bydd yn dal i frifo. Hefyd - edrychwch ar yr adran 'Help i bobl ifanc'; yn y wefan hon, wedi i chi orffen yma.