Pan o'n ni'n ifanc iawn, roedd rhaid i rywun ofalu amdanon ni drwy'r amser. Ein bwydo ni, ein 'molchi ni... ayb. Ond wrth fynd yn hyn, dyma ni'n dechrau gwneud pethau droson ni'n hunain. Tyfu fyny yw hyn. Dysgu sut i gymryd cyfrifoldeb amdanon ni'n hunain.
Ry'n ni'n gwneud hyn yn A R A F
allwn ni ddim ei ddysgu i gyd ar unwaith! Ond gallwn ni ddysgu penderfynu droson ni'n hunain, i gymryd gofal, ac i gadw'n hunain yn ddiogel.
Cliciwch ar y dolenni cyswllt ar dop y dudalen-we hon, a darllenwch y stwff am gyffuriau. Meddyliwch amdano'n galed - siaradwch â'ch ffrindiau - a phenderfynwch sut fyddwch chi'n cadw'n ddiogel.