Er bod hon yn sefyllfa anodd i chi cofiwch mai nid arnoch chi mae'r bai amdani - ac nid chi yw'r unig un sydd yn yr un sefyllfa.
Cofiwch hefyd - allwch chi ddim rheoli defnydd eich rhieni o ddiod neu gyffuriau - er i chi wneud ymdrech galed.
ry'n ni'n argymell eich bod chi:
![]()
Yn dweud wrth eich rhiant sut ry'ch chi'n teimlo - os yw hi'n OK i chi wneud hyn.
![]()
Yn gosod terfynau - er mwyn cadw'ch hunan yn ddiogel.
![]()
Yn siarad ag eraill - i arbed bod mor unig.
![]()
Yn cael help a chefnogaeth - does dim rhaid i chi fod ar eich pen eich hun.