Ond fydd y rhiant yn aml ddim yn sylweddoli'r effaith y mae camddefnydd cyffuriau neu alcohol yn ei gael ar bobl eraill - neu'n hytrach, maen nhw YN gwybod - ond maen nhw ceisio peidio meddwl amdano.
Gall hyn achosi i bobl ifanc deimlo'n ddryslyd iawn - am eu bod yn GWELD bod camddefnyddio cyffur neu alcohol yn achosi problemau yn y cartref - eto'i gyd, mae'r rhiant yn esgus nad oes problem . . .
Sut y'ch chi'n teimlo pan welwch chi'ch rhiant yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol?
Yn ofnus? Yn drist? Yn ddig?
Ydy hyn yn ymyrryd gyda'ich gwaith ysgol? Gyda chyfeillgarwch yn yr ysgol?
Oes cywilydd arnoch chi ddod â'ch ffrindiau adre'?
Sut bynnag mae hi arnoch chi mae'r sefyllfa yn un anodd i unrhyw berson ifanc fod ynddi.
Gadewch i ni weld beth allwch chi wneud i wella'ch bywyd . . .