Yn gyntaf - deall beth na allwn ni wneud

Mae'n bwysig i chi ddeall allwch chi ddim rheoli ymddygiad eich rhiant/rhieni efo cyffuriau neu alcohol. Er i chi geisio mor galed.

Ceisio rheoli'r sefyllfa yw gwneud pethau fel cuddio poteli alcohol, cuddio cyffuriau, eu taflu i ffwrdd, gofyn i'r rhiant ddefnyddio llai neu stopio, eu holi o hyd am y peth, ac yn y blaen . .

Ydych chi'n gyfarwydd â rhai o'r ymdrechion hyn i reoli defnydd eich rhiant o gyffur neu ddiod Efallai i chi geisio gwneud pethau fel hyn.

Weithion nhw?     Am faint?

Yn ein profiad ni mae ymdrechion i reoli camddefnydd rhywun yn gweithio am ychydig - ond yn methu bron bob tro.

OK - os na allwn ni reoli defnydd rhywun arall o gyffuriau neu alcohol - yna beth allwn ni wneud? Wel, gadewch i ni weld . . .