OK - os na allwn ni reoli defnydd eich rhiant o gyffuriau neu alcohol - beth allwn ni wneud?
Mae yna rai pethau allwch chi wneud i helpu'r sefyllfa hon.
1) Dwedwch wrth eich rhiant sut y'ch chi'n teimlo - os yw hi'n OK i chi wneud hynny.
![]()
2) Gosodwch derfynau - er mwyn cadw'ch hunan yn ddiogel.
![]()
3) Siaradwch ag eraill - er mwyn peidio teimlo mor unig.
![]()
4) Chwiliwch am help a chefnogaeth - does dim rhaid i chi ddelio â hyn ar eich pen eich hunan.
Nawr - gadewch i ni edrych yn fwy manwl ar ystyr hyn i gyd . . .