Nawr, gall siarad â'ch rhiant am eu defnydd o alcohol neu gyffuriau eich dychryn. Mae hyn yn OK. Mae'n iawn i fod ofn. Ond does dim rhaid i ofn ein stopio rhag gwneud pethau - gyn belled â'i bod yn ddiogel i ni.
Ddweda' i hyn eto achos mae'n bwysig iawn.
Nawr
i'r bobl ifanc sy'n teimlo'n ddiogel i siarad â'u rhiant, mae'n bwysig deall pan fyddwn ni'n sôn am sut y'n ni'n teimlo am eu camddefnydd - i ni beidio'u beio. Does dim rhaid i ni ddweud "Wnaethoch chi hyn!" . . . "Wnaethoch chi'r llall!" - achos nid dyna y'n ni'n geisio'i wneud. Beth bynnag - fyddai'r rhiant ddim yn debyg o wrando - neu byddai'r sgwrs yn mynd yn gweryl. Does neb am gael dadl anferth arall?
Na we're not blaming here. Ry'n ni jyst yn dweud sut y'n ni'n teimlo.
Felly - dewiswch adeg pan na fydd eich rhiant wedi bod yn yfed na chymryd cyffuriau - ac yna dwedwch yr hoffech chi siarad â nhw. Bod ganddoch chi rywbeth pwysig iawn i'w ddweud.
Yna, efallai y dwedwch chi wrth Mam neu Dad . . .
Pan fyddwch chi'n 'y ngadael i'n unig yn y ty - rwy'n teimlo'ch bod chi ddim yn hidio amdana' i.
Pan fo chi'n cwrdd â fi o'r ysgol wedi bod yn yfed - rwy'n teimlo cywilydd.
Pan fo chi'n dod â'ch ffrindiau adre i gymryd cyffuriau - rwy'n teimlo ofn.
Pan fo chi'n cysgu yn ystod y dydd - rwy'n teimlo mor drist.
Pan fo chi'n torri'ch addewidion i fi - rwy'n brifo - yn marw tu fewn.
Byddwch yn onest. Dwedwch y gwir. Dwedwch eich bod yn brifo. Rhaid iddyn nhw wybod pa effaith y mae'r yfed neu'r cyffuriau yn ei gael arnoch CHI!
Wedi i chi ddweud wrth eich rhiant sut y'ch chi'n teimlo - efallai byddwch chi am bwysleisio y dylai pethau ddim bod fel hyn. Gallwch ei gwneud yn glir - er eich bod yn caru eich rhiant, y byddech chi'n hoffi iddyn nhw gael help i ddelio â'u camddefnydd.
Beth y'n ni'n geisio wneud
yw helpu'ch rhiant i ddeall
bod eu hymddygiad ddim yn dderbyniol - ac onibai eu bod yn ceisio am help - bydd raid i chi weithredu i amddiffyn eich hunan.
Darllenwch y darn nesaf i weld sut i wneud hyn . . .