
GOSOD TERFYNAU
Wrth osod terfynau
gwnawn ddau beth.
Adnabod ymddygiad sy'n annerbyniol i ni.
Dweud BYDDWN NI'N GWEITHREDU ynghylch yr ymddygiad.
Mae gan blant HAWLIAU
hawl i fyw mewn lle diogel, heb gamdriniaeth. Mae gan rieni DDYLETSWYDD i ddarparu lle felly i blant. Os bydd yfed neu ddefnydd cyffuriau rhiant yn gwneud y cartref yn anniogel neu'n afiach i blentyn - yna rhaid gweithredu i gywiro hyn.
Gadewch i ni weld beth yw ystyr hyn i chi
Bydd yn help os gallwch astudio'r mathau o bethau fydd eich rhiant yn eu gwneud - yn dilyn y camddefnydd - sy'n achosi i chi beidio teimlo'n ddiogel, yn ansicr neu'n anhapus. Yna, ysgrifennwch rhain i lawr. Dim ond i'ch helpu chi- does dim rhaid i chi ddangos rhain i neb.
Gadewch i ni edrych ar rai enghreifftiau . . .
- A fydd eich rhiant yn camdrin diod neu gyffuriau gartref? Pa mor aml?
- A fydd eich rhiant yn gwahodd oedolion eraill adre i yfed neu i gymryd cyffuriau?
- A fyddwch chi'n cael eich gadael ar eich pen eich hunan gartre? Pa mor hir?
- A fuoch chi erioed eisiau bwyd, achos bod yna ddim ar gael?
- A fyddwch chi'n gorfod coginio? Glanhau?
- A Ddefnyddiodd eich rhiant drais tuag atoch chi? Nid yn unig yn gorfforol, ond dweud pethau neu yn emosiynol hefyd?
- A gawsoch chi ddigon ar dorri addewidion?
Ychydig enghreifftiau yn unig yw rhain yn dangos ymddygiad annerbyniol
Bydd rhestr eich hunan ganddoch chi - ysgrifennwch bethau lawr, i'ch helpu i'w cael yn glir yn eich meddwl. Pethau sy'n gwneud i chi deimlo'n anniogel, yn ansicr neu'n anhapus. Cofiwch, does dim rhaid i chi ddangos eich rhestr i neb.
Nawr
unwaith eich bod wedi enwi'r pethau ry'ch chi'n anfodlon eu derbyn - dylech benderfynu beth i wneud os digwyddan nhw eto.
Am eich bod chi'n ifanc, mae pen draw ar beth allwch chi wneud os bydd eich rhiant yn croesi'ch terfynau. Ond dy'ch chi ddim heb rym
Fe allwch chi weithredu.
Dyma rai enghreifftiau:
- Gallech fynd i dy ffrind - a dweud wrth eu rhieni pam ry'ch chi yno.
- Gallech ddweud wrth athro ysgol am ymddygiad eich rhiant.
- Gallech fynd i dy perthynas - a dweud beth sy'n digwydd.
- Gallech ddweud wrth yr heddlu - os bu eich rhiant yn defnyddio trais tuag atoch.
Beth bynnag fyddwch yn penderfynu gwneud, os bydd eich rhiant yn croesi'ch terfynau
GWNEWCH EICH GORAU I GADW ATI
Bydd hyn yn eich dychryn efallai
wedi'r cwbl, ry'n ni'n sôn am ddweud wrth bobl eraill (ffrindiau, perthnasau, yr heddlu etc) am ymddygiad ein rhiant. Efallai ân nhw i drwbwl . . . yna, chi efallai gaiff y bai - neu rywun arall yn y cartref.
Gadewch i mi 'ch sicrhau
Fydd eich rhiant ddim yn mynd i drwbwl - onibai eu bod yn defnyddio trais yn y cartref - neu yn eich erbyn chi. Os hynny, maen nhw'n haeddu mynd i drwbwl - achos 'dyw trais yn erbyn plant BYTH yn dderbyniol. Cliciwch yma i ddarllen mwy am drais yn y cartref.
Efallai bydd angen help ar eich rhiant i goncro problem yfed neu gyffuriau - Ac efallai y gall ffrindiau, perthnasau neu'r heddlu ddangos iddyn nhw lle i gael y math hwn o help.
Ond eich rhiant fydd yn gofalu am hynny
rhaid i chi ofalu amdanoch chi'ch hunan.