Trais yn y cartref

Dylai pawb deimlo'n ddiogel a chael gofal yn eu cartrefi Ond os oes rhywun yn eich teulu yn dangos trais neu ddicter, bydd bod yn y cartref yn beth enbyd. Efallai bod oedolion yn brifo'i gilydd, neu efallai bod oedolyn yn eich brifo chi.

Nid trais corfforol yw trais bob amser - trais emosiynol yw'r math mwyaf cyffredin yn erbyn plant.

Gall trais yn y cartref ddigwydd mewn unrhyw deulu ac ymhob mathau o gartrefi. Pan fydd oedolion yn defnyddio trais yn erbyn ei gilydd, bydd niwed i blant yn hanner yr achosion hynny. Hyd yn oed pan fydd y plant ddim yn gweld y trais yn digwydd, byddan nhw'n ei glywed yn aml. Mewn naw achos allan o bob deg, mae plant yn y 'stafell nesaf at yr un lle mae'r trais yn digwydd. Gall hyn eu dychryn yn enbyd.

Bydd plant sy'n byw mewn cartrefi treisgar yn rhy ofnus neu'n teimlo cywilydd adrodd amdano yn aml - achos mae llawer yn credu bod stigma i drais yn y cartref, ac yn teimlo wedi eu bychanu ganddo. Y rhesymau mwyaf cyffredin am beidio sôn wrth neb am y trais yw ofn dialedd a pheidio cael eich credu.

 

Beth os yw'n digwydd i mi?

Mae hawl ganddoch chi i gael eich amddiffyn rhag trais a chamdriniaeth Os oes rhywun yn eich brifo, dwedwch wrth oedolyn ry'ch chi'n ymddiried ynddo/ynddi.

Waeth beth wnaethoch chi, pa mor ddig bynnag roedd eich mam neu eich tad, mae brifo rhywun yn beth anghywir. Nid eich bai chi BYTH yw hynny - peidiwch beio'ch hunan.

Os y'ch chi'n byw yn y DG Gallwch alw un o'r llinellau cymorth, ChildLine ne'ur NSPCC. Maen nhw'n gyfrinachol. Os y'ch chi'n byw y tu allan i'r DG - edrychwch yn eich llyfr ffon am linell gymorth.

ChildLine    
Llinell gymorth 24 awr yw ChildLine i blant a phobl ifanc yn y DG. Gall plant a phobl ifanc alw 0800 1111 gydag unrhyw broblem, unrhyw amser - ddydd a nos. Bydd cwnselwyr ChildLine yno i helpu. Os y'ch chi'n gofidio am blentyn all fod mewn perygl o gael ei gamdrin neu angen help - neu os mai chi yw'r plentyn sydd angen help - yna mae Llinell Gymorth Amddiffyn Plant yr NSPCC yno i'ch helpu, 24 awr y dydd, bob dydd o'r wythnos.
Galwch 0800 1111

http://www.childline.org.uk/
Galwch 0808 800 5000

(Cewch gyngor hefyd ar e-bost)
https://www.nspcc.org.uk/nspcc/helpline

Os ych chi'n credu bod ffrind yn dioddef trais yn y cartref, byddwch o ddifrif gyda nhw a'u hannog i siarad. Siaradwch ag oedolyn ry'ch chi'n ymddiried ynddo/ynddi os y'ch chi'n wir bryderus.

NÔL