Fel y dwedon ni'n gynharach os bydd rhiant yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, yna mae'n hawdd i'w plant deimlo'n unig. Efallai eu bod nhw'n teimlo na fydd neb yn deall . . . efallai eu bod yn teimlo cywilydd bod ei rhiant yn ymddwyn fel hyn . . . efallai eu bod nhw'n teimlo y dylen nhw ei gadw'n gyfrinachol, rhag ofn i'w rhiant fynd i drwbwl.
Ai fel hyn y mae pethau i chi - Meddyliwch eto am hyn.
Dyw hi ddim yn wir na fydd neb yn deall. Tebyg iawn bod gan eich ffrindiau hefyd rieni sy'n ymddwyn fel hyn.
![]()
Does dim raid i chi deimlo cywilydd am ymddygiad eich rhiant. Mae'r sefyllfa'n un gyffredin iawn - gall ddigwydd i unrhyw un.
![]()
Bydd cadw'r peth yn gyfrinachol ddim yn help. Ddim yn help i chi - nac i'ch rhiant.
Felly, awgrymwn na ddylech gadw'ch teimladau i chi'ch hunan. Chwiliwch am rywun ry'ch chi'n ymddiried ynddo/ynddi a rhannwch eich teimladau am ymddygiad eich rhiant gyda nhw.
Efallai bydd hi'n haws siarad gyda ffrind ysgol, perthynas neu athro/athrawes. Does dim gwahaniaeth pwy ddewiswch chi - pwy bynnag y'ch chi'n gyfforddus gyda nhw.
Os teimlwch bod ganddoch chi neb i ymddiried ynddyn nhw fel hyn, ewch at eich gwasanaeth Cyffuriau & Alcohol lleol (fe fydd rhai yn mwyafrif ein trefi) - byddan nhw'n gwrando, heb ddweud wrth neb arall.
Peidiwch anghofio - os oes neb y gallwch chi siarad a nhw - gallwch alw ChildLine - ar 0800 1111 Rhadffon gymorth yw hon i blant a phobl ifanc (hyd 18 oed), ddydd a nos. Mae cwnselwyr ChildLine yno i'ch helpu i ddatrys pethau..