CAEL HELP A CHEFNOGAETH

Nawr ry'n ni'n gwybod bod y sefyllfa hon yn un anodd i chi ar ben eich hunan.

Wel, mae newyddion da - does dim rhaid i chi! Gall llawer o bobl eich helpu a'ch cefnogi - os byddwch yn dymuno hynny. Dyma rai syniadau . . .

Eich ffrindiau - siaradwch â nhw, rhannwch brofiadau, teimladau. Cewch gefnogaeth ganddyn nhw.

Eich perthnasau - all wrando ar eich pryderon, cynnig lle diogel i chi fynd iddo, siarad â'ch rhiant efallai - os mynnwch.

Eich ysgol - gall athro neu gwnselwr ysgol gynghori beth i wneud, a chysylltu ag asiantaethau eraill all eich helpu.

Eich Clwb Ieuenctid - neu grwp arall - gall unrhyw grwp ry'ch chi'n rhan ohono roi cefngaeth i chi. Gall yr oedolion eich cynghori; a'r bobl ifanc eich cefnogi.

Eich cangen Cyngor Ar Bopeth - mae llefydd fel hyn ar gael i gynghori pobl efo problem - unrhyw broblem. Dyna'u pwrpas. Byddan nhw'n hapus i'ch helpu.

Eich Canolfan Gynghori ar Gyffuriau ac Alcohol - sy'n delio â phobl dan effaith defnydd rhywun arall o gyffuriau ac alcohol. Bydd gwybodaeth a phrofiad ganddyn nhw i gynnig llawer o help a chefnogaeth i chi.

Ar wahan i'r rhai lleol - yn y rhestr uchod - gall mudiadau cenedlaethol roi gwybodaeth, help a chyngor.

National Association for Children of Alcoholics (NACOA)
PO Box 64
Fishponds
Bristol
BS16 - 2HU
Tel: 0117 - 9573432
Rhadffon: 0800 - 289061
Elusen gofrestredig i helpu plant teuluoedd lle mae rhiant/rhieni yn dioddef alcoholiaeth - neu broblem gaethiwed tebyg iddi, gan gynnwys camddefnydd cyffuriau.

Families Anonymous - UK   Cyfeillach, i berthnasau a ffrindiau pobl sy'n camdrin cyffuriau neu alcohol neu broblemau cysylltiedig. Mae'r wefan hon yn eu disgrifio, ac mae ynddi wybodaeth i deuluoedd a ffrindiau; disgrifiad hefyd o'u llenyddiaeth.

Adfam   Mae Adfam yn bodoli i godi ymwybyddiaeth am, a gweithredu er mwyn, lliniaru ar y problemau a wynebir gan deuluoedd oherwydd cyffuriau ac alcohol. Eu nod yw gweld TG lle bydd pob aelod o'r teulu sy'n wynebu problemau gydag alcohol neu gyffuriau yn cael dewis o wasanaethau arbenigol.

Al-Anon UK & Eire   Cyfeillach yw Al-Anon sy'n bodoli er mwyn helpu teuluoedd a ffrindiau alcoholigion i gael adferiad rhag effeithiau byw gyda phroblem yfed aelod teulu, perthynas neu ffrind. Gwefan i'r DG ac Iwerddon gyda llawer iawn o wybodaeth a manylion cysylltiadau lleol.